arlein.net
cartref
amdanom ni
gwasanaethau
cymorth
newyddion
panel rheoli
gwebost
cysylltu
newid iaith
21ain o Dachwedd, 2008
  angen cymorth?

Testunau

SEFYDLU

  • Sefydlu’r Panel Rheoli
  • Cyflunio’r rhaglen e-bost

  • CYWIRO DIFFYGION

  • Panel Rheoli
  • Gwasanaethau Post
  • Gwe gynnal
  •  
    SEFYDLU

    Sefydlu’r Panel Rheoli

    Pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf i'r panel rheoli bydd gofyn i chwi gyflwyno gwybodaeth er mwyn creu'r cyfeiriad e-bost cyntaf a fydd yn cael ei ddefnyddio i dderbyn y post a yrrwyd i'r 'postmaster'. Gall gyfeiriadau ffug eraill gael eu gosod yn hwyrach ymlaen. Cyn gynted ag y bo'r cam hwn wedi'i gwblhau'n llwyddiannus bydd y panel rheoli'n gweithredu'n arferol gan adael i chwi ychwanegu / golygu / dileu cyfeiriadau e-bost a chyfeiriadau ffug.
     

    Cyflunio’r rhaglen e-bost

    Rydym ni yn arlein.net yn defnyddio SSL i ddiogelu ein gwasanaethau post, ac felly'n amgodio'r cysylltiad rhwng eich cyfrifiadur a'r gweinydd. Mae sefydlu eich rhaglen e-bost angen ychydig mwy o wybodaeth er mwyn galluogi i'ch post gael ei dderbyn a'i yrru'n gywir.

    Gallwch gychwyn trwy greu cyfrif post arferol. Y mae'r enghraifft isod wedi'i osod ar gyfrifiadur sydd gyda 'Outlook Express' fel ei raglen e-bost, ond mae'r un egwyddor yn gyffredin i raglenni eraill.
         
    O dan y labed 'Servers' uchod dylid gosod yr 'incoming mail' a'r 'outgoing mail' i 'www.arlein.net' pa un ai eich bod yn defnyddio cyfrif POP3 neu IMAP. Os yw hwn wedi'i osod i 'mail.arlein.net' byddwch yn derbyn rhybudd yn nodi nad yw tystysgrif y gweinydd yn cyfateb i'r post sy'n acel ei yrru a'i dderbyn (ingoing / outgoing mail) gennych.

    Ar yr un dudalen 'poroperties' dylech roddi tic yn y bocs er mwyn nodi bod y gweinydd sy'n gyrru'r post angen cael ei ddilysu. Y mae hwn wedi'i osod yn awtomatig ac yn gywir yn 'Outlook Express' ar 'Use same settings as my incoming mail server'.

    Mae gosodiadau pwysig hefyd o dan y labed 'Advanced'. Dylech farcio'r bocs 'This server requires a secure connection (SSL)' ar gyfer y post sy'n cael ei yrru a'i dderbyn.
     
    CYWIRO DIFFYGION

    Panel Rheoli
    C  ‘Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair ar gyfer y Panel Rheoli.
    A  E-bostiwch Cymorth Technegol er mwyn ein galluogi i ail-osod eich cyfrinair.
     
    C Ni allaf ychwanegu mwy o gyfeiriadau e-bost.
    A Gwiriwch yr adran ‘Summary’ pan ydych yn mewngofnodi ­ mae’n nodi y nifer o gyfeiriadau e-bost a’r uchafswm sydd ar gael.
     
    C Rwy’n berchen ar fwy nag un enw parth. Sut gallaf newid o un i’r llall heb fewngofnodi eto?
    A Os ydych yn berchen mwy nag un enw parth bydd botwm 'change' ar waelod y panel rheoli, a bydd angen i chwi ddewis y parth a chlicio ar y botwm hwnnw.

    Gwasanaethau Post

    C Rwy’n derbyn negeseuon bod gwall ar y gweinydd pan yn ceisio gyrru a derbyn fy e-bost.
    A Gwiriwch yr adran 'Setup' o'r dudalen gymorth hon i gadarnhau'r gosodiadau sydd eu hangen ar gyfer eich rhaglen e-bost. Os parha'r broblem gwiriwch statws y gwasanaethau post trwy fewngofnodi i'r panel rheoli. Os noda'r panel rheoli bod gwall ar y gwasanaeth, yna'r tebyg yw ei fod yn cael ei archwilio ar y pryd.
     
    C Ni allaf fewngofnodi i fy ngwebost.
    A Yn gyntaf, gwiriwch y math o gyfeiriad e-bost sydd gennych, os yw'n POP neu IMAP. Gallwch wirio hyn yn y panel rheoli. Pan fyddwch yn cyflwyno'ch enw defnyddiwr a chyfrinair i fewngofnodi i'ch gwebost gwnewch yn siwr eich bod yn dewis y gweinydd sy'n cyfateb i'ch math o raglen e-bost.
     
    C Ar ôl mewngofnodi i’m gwebost ni allaf greu ffolderi ychwanegol i drefnu fy ebost.
    A Ni allwch greu ffolderi ychwanegol os oes cyfrif POP gennych. Rhaid yw defnyddio'r 'inbox' yn unig.
     

    Gwe Gynnal

    C Ni allaf lwytho ffeiliau i fyny i’m lle ar y we. Mae’r gweinydd yn gwrthod fy nghyflwyniad.
    A Mewngofnodwch i'r panel rheoli ac ail-osodwch eich cyfrinair 'ftp'. Os ydych yn dal i gael trafferthion, e-bostiwch ni er mwyn ein galluogi i ddatrys y broblem yn gyflym.
     
    C A fedraf greu fy nhudalen wallus fy hun?
    A Gallwch, drwy gyflwyno ei leoliad i ni. Bydd y gallu i ddewis eich tudalen wall eich hun yn cael ei gyflwyno i'r panel rheoli yn y dyfodol agos.

    [ cartref | amdanom | gwasanaethau | cymorth | newydd | mewngyfnodi | gwebost | cysylltu | english ]

    Hawlfraint © 2004 arlein.net