arlein.net
cartref
amdanom ni
gwasanaethau
cymorth
newyddion
panel rheoli
gwebost
cysylltu
newid iaith
21ain o Dachwedd, 2008
  pecynnau cyflawn
|
|
Cynigir y pecyn cyflawn gan arlein.net . Gallwn ddylunio, creu, hyrwyddo a chynnal eich gwefan. Trwy ddewis un o'n pecynnau gallwch ymlacio a gadael i ni wneud y gwaith.

Mae ein pecyn cyntaf yn berffaith ar gyfer cwsmeriaid sydd angen codi ymwybyddiaeth o'u busnes drwy'r we. Mae dechrau eich cyfrif a mis o gynnal eich gwefan i'w gael yn rhad ac am ddim gyda'r pecyn.
pecyn 1
 
Gwefan un dudalen
Blwyddyn o gynnal
Mis o gynnal am ddim
Creu eich cyfrif am ddim
Ei chynnal ym Mhrydain
 
£185
Mae'r ail becyn yn ddelfrydol ar gyfer y busnesau neu sefydliadau rheiny sydd angen arddangos mwy na'r wybodaeth sylfaenol a ddangosir ar wefan un dudalen.

Gall gwefan aml-dudalen gyflwyno gwybodaeth a dealltwriaeth ddyfnach i'ch cwsmeriaid posibl. Fel pob pecyn a gynigir, cynhwysir yn hwn hefyd sefydlu eich cyfrif a mis o gynnal am ddim. Y cynllun cynnal a gynhwysir yw safle canolig (medium site) sydd yn golygu bod mwy o led band ar gael er mwyn delio gyda nifer fawr o ymwelwyr i'r safle.
pecyn 2
 
Gwefan hyd at 5 tudalen
Blwyddyn o gynnal
Mis o gynnal am ddim
Creu eich cyfrif am ddim
Ei chynnal ym Mhrydain
 
£360
 
Pecyn sy'n addas ar gyfer busnesau sydd angen safle mwy, ble disgwylir nifer helaeth o ymwelwyr yw'r pecyn hwn.

Yn gynhwysiedig yn hwn ceir cynhaliaeth safle canolig (medium site) gyda 2 fis o gynnal am ddim. Mae'r safle canolig yn ddigon ar gyfer y mwyafrif o safleoedd, ond pe bai disgwyl i drafnidiaeth y safle fod yn uchel iawn, gellid trefnu pecyn cynnal safle mwyaf (large site).
pecyn 3
 
Gwefan hyd at 10 tudalen
Blwyddyn o gynnal
2 fis o gynnal am ddim
Creu eich cyfrif am ddim
Ei chynnal ym Mhrydain
 
£600
 
enwau parth
Er mwyn galluogi eich safle i fod yn 'fyw' ar y we fyd eang rhaid yw cael enw parth cofrestredig er mwyn galluogi i bobl ymweld â'r safle. Os nad oes enw parth gan eich busnes gallwn ni gofrestru un ar eich cyfer.
 
archebu ac ymholiadau
Ar gyfer unrhyw ymholiadau neu archebu un o'r pecynnau cysylltwch â ni heddiw i gael eich busnes arlein cyn gynted ag y bo modd.
 
Mae'r prisiau a ddangosir am y flwyddyn gyntaf un unig. Y gost wedyn fyddai'r tal cynnal blynyddol.
Dibynna'r tal blynyddol ar y pecyn a ddewisir. Gall gwsmeriaid newid eu gofynion cynnal yn ystod neu ar ôl y flwyddyn gyntaf.
Amodau a Thelerau

[ cartref | amdanom | gwasanaethau | cymorth | newydd | mewngyfnodi | gwebost | cysylltu | english ]

Hawlfraint © 2004 arlein.net